Mae’n Flwyddyn y Môr yng Nghymru, ac rydym am fynd amdani er mwyn canu clodydd ein harfordir anhygoel – ac wrth gwrs, gan mai tŷ bwyta ydyn ni, rydym ni’n mynd i sôn am fwyd môr!
Mae bioamrywiaeth Gogledd Cymru yn achos dathlu, ac mae ein harfordir eang ysgubol yn llawn pysgod o bob math.
Rydym yn dathlu bwyd lleol, ac felly, rydym yn gwneud ein gorau glas i ddefnyddio pysgod sy’n cael eu dal yn lleol – a ‘Mike Fish’ sy’n ein cyflenwi ni – sy’n dal ac yn cyflenwi pysgod blasus sydd wedi’u dal yn lleol.
Diolch i’n harfordir anhygoel, rydym hefyd ar fin cynnal Pencampwriaeth Pysgota Glannau’r Byd yn 2018.
Mewn gwirionedd – Caernarfon yw un o’r llefydd gorau ar gyfer pysgota, gyda nifer o bysgotwyr brwd yn dewis y moroedd a’r llynnoedd o gwmpas yr ardal fel eu hoff le i bysgota i gael cyflenwad o safon o Gymru. Mae pier tref Caernarfon yn un o hoff lefydd pysgotwyr wrth iddyn nhw geisio torri’r record am y Merfog Du (Black Bream) a gafodd ei ddal oddi ar y pier flynyddoedd lawer yn ôl.
Os nad ydych chi wedi clywed yn barod – rydym yn dod â’n cariad at fwyd môr i Ŵyl Fwyd Caernarfon, lle bydd ein stondin yn gwerthu Cregyn Gleision, Cocos a Bacwn a Paella.
Gyda golwg ar warchod bioamrywiaeth anhygoel y môr, mae’r holl bysgod rydym yn eu defnyddio yn cael eu dal drwy’r ffordd swyddogol gan ddefnyddio cyflenwyr sydd wedi’u hardystio.
Yn y Black Boy Inn, mae ein bwyd môr yn adnabyddus gan bobl leol a theithwyr fel ei gilydd, sy’n mwynhau sgod a sglods, eog wedi’i fygu, pastai pysgod, hadog, cimwch a llawer mwy.
Rydym yn cynnal treftadaeth forwrol tref Caernarfon ar lannau’r Fenai, ac yn falch o allu cynnig amrywiaeth eang o’r bwyd môr gorau yn y wlad.
Dyma rai adolygiadau o’n bwyd môr – “Cregyn gleision ffres, lleol wedi’u coginio’n berffaith mewn saws garlleg, gwin gwyn a hufen, gyda bara crystiog ar yr ochr. Fe wnaethon ni fwynhau diwrnod hyfryd o haf a bwyta’n yr ardd gwrw. Cafodd un o’n grŵp y salad cimwch oedd r’un mor arbennig.”
“Bwyd gwych. Cregyn gleision a chrymbl physgod. Wrth fy modd.”
“Ges i’r cegddu (hake) a chafodd fy ngŵr y stiw pysgod (os dwi’n cofio’n iawn). Dyma ddarn hyfryd o bysgodyn. Roedd y gwasanaeth yn dda, a doedd dim rhaid aros yn hir.”
“.. Penderfynodd y ddau ohono ni gael y pysgodyn a’r sglodion ac roedd y pryd yn enfawr – a’r pysgodyn yn fendigedig mewn cytew ysgafn hyfryd”.