Hanes Balch
Mae pethau sy’n ein hatgoffa o’n hanes balch i’w gweld ledled Cymru; adfeilion cestyll a ddefnyddiwyd i ymladd rhyfeloedd a gwarchod ein tir, y ceudyllau cloddio llechi a oedd yn enaid ein trefi, a’r Wyddfa fawreddog sy’n dal yn agos at galon y Cymry. Mae bod yn Gymry yn eich gwaed ni; yn eich galw chi adref ac yn ennyn ymdeimlad o falchder Cymreig ynoch chi.
Yr Iaith
Cenedl heb iaith yw cenedl heb galon. Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu iaith eu cyndeidiau. Clyw’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg ym mhob elfen o fywyd beunyddiol, ac mae gan y ddau statws cyfartal. Mae’r rheini sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eithriadol o falch o wneud hynny. Mae’n eu gwneud yn unigryw, yn eu hatgoffa o’u hetifeddiaeth ac, wrth gwrs, mae sŵn hyfryd iddi.
Bwyd a Diod
Gyda’n morlin helaeth a’n pridd ffrwythlon, mae gan Gymru angerdd dros greu bwyd a diod sy’n llawn blas. Daw bwyd a diod da o gynhwysion da; dyw hynny ddim yn ddamcaniaeth ddiarth i Gymru. Mae gan Gymru dros 80 o fragdai – dim rhyfedd ein bod gennym gymaint o gwrw lleol blasus. O ganlyniad i benderfyniad bwytai lleol i ddefnyddio cynnyrch lleol, mae’r bwyd yma yn Gymreig drwyddo draw.
Trysorau Cudd
Hyd yn oed os ydych chi wedi treulio eich oes yma, mae’n siŵr na fyddwch chi wedi ymweld â’r holl drysorau cudd sydd gan ein gwlad drawiadol i’w cynnig; ein cestyll enwog sy’n denu twristiaid o bedwar ban byd, llwybrau cerdded anturus, a morlin cyfareddol. Mae llond gwlad o leoedd i’w harchwilio yng Nghymru, yn llythrennol! Ymysg y rhain mae’r pwll diderfyn cudd yn Eryri – y man perffaith i ymlacio ar ôl crwydr hir (os gallwch chi ddod o hyd iddo!).
Yr Anthem Genedlaethol
Does dim ffordd well o ddathlu eich Cymreictod na bloeddio’r anthem genedlaethol pan fo Cymru’n cystadlu mewn unrhyw ddigwyddiad. Rŵan bod y tymor rygbi yn ei anterth, mae’r anthem yn cael ei chanu bob cyfle posib. Mae’n dod â phobl o bob cefndir ac oedran ynghyd; mae’n uno ni oll mewn cân.