Ar frig y don… syrffio yng Ngogledd Cymru
I ddathlu Cymru: Blwyddyn y Môr, rydym wedi gwneud rhestr o rai o’r traethau syrffio gorau yng Ngogledd Cymru. P’un a ydych chi’n syrffio am y tro cyntaf neu’n brofiadol, os yw’r amodau’n iawn, mae traethau ar gael sy’n addas i syrffwyr o bob lefel.
1. Porth Neigwl / Hell’s Mouth
Traeth anferthol yw Porth Neigwl ym mhen pellaf Pen Llŷn. Mae siâp dramatig hanner cylch y traeth yn debyg i geg fawr yn agor. Mae gwyntoedd didostur y de-orllewin yn cynnig amodau garw a fawr ddim achubiaeth i’r rheini sy’n hwylio. Serch hynny – dyw morwyr ddim yn syrffwyr. Er mai tonnau mawr yw hunllef gwaethaf y morwr, dyma freuddwyd y syrffiwr. Byddwch yn ymwybodol o’r cerrynt cryf, y crychdonnau (riptides) a’r môr tir (undertow). Mae’r clogwyni enfawr yn syrthio i mewn i’r môr oddi tano gyda chreigiau garw ar hyd y ffordd i lawr – felly cadwch draw o’r ymyl rhag ofn y bydd yna dirlithriadau … byddwch yn ofalus! Mae’r traeth oddi tano yn cynnwys tywod euraid ac ychydig o gerrig mân am 4 milltir.
2. Traeth Llyndan – Rhosneigr
Pentref glan môr Rhosneigr yw un o hoff leoliadau syrffwyr yr ardal. Mae’r dref wych hon yn gartref i ychydig o lannau. Yr un sydd â’r tonnau da yw Traeth Llyndan. Fel pob traeth mae’n ddibynnol iawn ar y tywydd, ond yn yr amodau iawn mae’n baradwys i’r syrffiwr. Byddwch yn ofalus o’r crychdonnau cryf (rip) a chyfrwys ar ymyl deheuol y traeth sydd hefyd yn agos iawn at y creigiau. Os byddwch chi’n mynd i syrffio adeg llanw isel, byddwch chi’n fwy tebygol o allu gweld beth sy’n digwydd.
3. Traeth y Bermo / Barmouth Beach
Dyma’r pellaf i’r de wnewn ni fentro ar ein taith syrffio o amgylch Gogledd Cymru. Y peth gwych am y traeth hwn yw mai anaml iawn y bydd yn brysur. Mae’r moryn (beach break) yn gweithio ym mhob llanw ac mae’n cynnig tonnau sy’n addas i ddechreuwyr. Daw’r gwyntoedd delfrydol o’r dwyrain, a’r ymchwydd delfrydol o’r de orllewin. Mae ansawdd y syrffio fan hyn yn dibynnu’n fawr ar ymchwydd y môr – gall fod yn dda weithiau.
4. Porth Oer / Whistling Sands – Aberdaeron
Ar Ben Llŷn ceir moryn (beach break) agored lle ceir syrffio anghyson. Yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn, gallwch ddisgwyl dod o hyd i rai tonnau garw. Mae’r moryn hwn yn cynnig troadau i’r chwith a’r dde. Mae ymchwydd y traeth a’r tir yr un mor debygol, ac mae’r syrffio ar ei orau tua adeg llanw uchel.
5. Porth Trecastell / Cable Bay
Dyma le haenog a thywodlyd hyfryd sy’n cael ei gwmpasu gan dwyni tywod, ac at ei ymylon, ceir pyllau creigiog a chlogwyni. Mae’r maes parcio yma AM DDIM. Mae gan y traeth fynediad gwych o’r A4080, ac oddi yno, mae mynediad at y traeth yn hawdd ar ôl taith gerdded fer dros y twyni.
BONWS – Syrffio Eryri – Dolgarrog, Conwy
Er nad yw’n draeth fel y cyfryw, roedden ni’n awyddus i’w gynnwys oherwydd mae’n cynnig tonnau gwallgof yn gyson. Dyma forlyn syrffio masnachol cyntaf y byd. Mae’n defnyddio technoleg beirianneg ‘gardd donnau’ â phatent arni. Mae cynllun y pwll yn golygu bod yna gyfleusterau i gefnogi tonnau ar gyfer lefel dechreuwyr, canolraddol ac uwch. Cyn neu ar ôl eich sesiwn, gallwch ymlacio yn y caffi neu’r bwyty wrth ymyl y tonnau. Os ydych chi’n teithio o bell, dyw’r Black Boy Inn ddim yn rhy bell, a gall gynnig lleoliad delfrydol i chi aros dros nos!