fbpx

Wednesday, 6 February 2019

Dewch i Ddarganfod Cyfrinachau Caernarfon – 6 Lleoliad Llai Adnabyddus

TREF LLAWN CYFRINACHAU

Mae tref Caernarfon yn gaer hynafol llawn cyfrinachau a strydoedd cefn cudd sy’n cynnwys siopau trugareddau a chaffis a bwytai, i gyd wedi’u hamgylchynu gan waliau cerrig canoloesol aruthrol. Ond er bod y castell yn cael y rhan fwyaf o sylw gan dwristiaid ac ymwelwyr, mae nifer o leoedd gwych o fewn cyffiniau Caernarfon a thu hwnt. Bydd yr erthygl hon yn sôn am rai o gyfrinachau gorau Caernarfon. Cofiwch ddod â’r dydd i ben drwy fwynhau peint a phryd blasus yn Nhafarn y Bachgen Du, un o’r gwestai mwyaf poblogaidd yn Eryri.

Dinas Dinlle

Un o’r cyfrinachau gorau ydy traeth cudd Dinas Dinlle, sydd ychydig y tu allan i Gaernarfon. Ceir golygfeydd godidog i lawr i fynyddoedd consentrig Penrhyn Llŷn, sy’n disgyn yn osgeiddig i’r môr – golygfeydd sydd gyda’r mwyaf eiconig yng Nghymru. Mae gan y traeth ei hun adrannau helaeth o gerrig mân ac o draeth tywodlyd. Pan fo’r llanw’n isel yw’r amser gorau i fynd, gan fod y glannau tywodlyd i’w gweld a digon o le i chwarae a mwynhau.

Segontiwm

Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i sylwi ar bwysigrwydd Caernarfon fel ardal strategol, gan ei dewis fel y lle i adeiladu eu caer Rufeinig. Dyma’r gaer Rufeinig fwyaf i gael ei chloddio yng Nghymru. Mae’r olion yn edrych dros y traeth ac yn cynnig golygfeydd ardderchog o Benrhyn Llŷn ac Ynys Llanddwyn ar arfordir Ynys Môn.

Ben Twthill

Mae’r guddfan hon i’w gweld gan bawb sy’n ymweld â Chaernarfon, ond eto anaml y caiff ei harchwilio gan y rheini sydd am ddilyn y llwybr sathredig. Cod y bryn yn uchel uwchben y dre, gan ddarparu golygfa banoramig dda o’r ardal leol. Mae’r fynedfa wedi’i chuddio mewn ardal breswyl yn y dref, a does dim maes parcio yno. Ceir golygfa wych o’r dref a’r cyffiniau o’r copa.


James W  – Rhagfyr 2016

Porth yr Aur

Wedi’i adeiladu er clod i’r haul sy’n machlud, mae Porth yr Aur yn gartref i Glwb Iotio Brenhinol Cymru. Dim ond dwy fynedfa oedd i’r dref fawr ac urddasol hon o’r blaen, a’r Porth hwn yn un ohonynt.

Cae’r Gors

Cae’r Gors

Bydd tro byr mewn car o dre Caernarfon yn eich arwain at le diddorol a hanesyddol. Dyma oedd cartref mebyd Kate Roberts. Roedd hi’n awdur, yn athro, yn ymgyrchydd gwleidyddol, ac yn ferch a oedd yn bell o flaen ei hoes. Ganwyd hi yng nghefn gwlad Cymru, ac aeth hi ymlaen i fod yn berchennog ac yn olygydd Y Faner, papur newydd Cymraeg ei iaith. Fe wnaeth ei nofelau am fywyd beunyddiol yn y pentrefi chwarela ei gwneud hi’n seren yng Nghymru. Caiff ei galw’n Frenhines ein Llên.


Llun gan Eric Jones

Eglwys Sant Baglan

Does dim llawer yn gwybod am yr hen gapel hwn, ond mae’n enghraifft sydd wedi’i chadw’n dda o hen fan addoli Cymreig yn y wlad a oedd ar un adeg yn biler canolog, hynod o bwysig y gymuned leol. Mae’r bensaernïaeth Gymreig glasurol yn werth ei gweld.