Dwynwen yw nawddsant cyfeillgarwch a chariad Cymru. Yn sant o’r 5ed ganrif, yn ôl pob sôn, hi oedd yr harddaf o 24 merch y brenin Brychan Brycheiniog.
Pan glywodd Maelon am hyn, mewn tymer angerddol, ymosododd ar Dwynwen. Dyma hi’n ffoi i’r goedwig lle ymbilodd ar Dduw i wneud iddi anghofio am Maelon.
Ar ôl iddi syrthio i gysgu cafodd ei ymweliad gan angel yn cario edlyn melys o anghofrwydd, ac un a fyddai’n troi Maelon i rew.
Pan ddihunodd, gwelodd beth oedd wedi digwydd. Yna rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd ddadmer Maelon, dymunodd bod Duw yn cwrdd â gobeithion a breuddwydion cariadon ac na fyddai hi fyth yn priodi.
Cafodd y tri eu bodloni, ac addunedodd Dwynwen weddill ei bywyd i wasanaethu Duw. Mae olion ei eglwys i’w gweld yn Llanddwyn yn ne orllewin Ynys Môn. Ger yr eglwys, yn edrych dros y môr, mae yna ffynnon, a elwir yn Ffynnon Santes Dwynwen. Mae wedi bod yn gyrchfan i bererinion cariadus ers canrifoedd lawer.