fbpx

Monday, 17 September 2018

Caernarfon – Hanes Brwydro

Doedd Caernarfon ddim wastad yn dref heddychlon fel
heddiw!

Dyma dref farchnad fywiog ar lan y môr ag iddi hanes rhyfeddol mewn brics hynafol a doc a choedwig anhygoel heb anghofio gwestai Eryri. Rhaid cofio bod y setliad hynafol hwn yn gaer a adeiladwyd yn unswydd i amddiffyn yn erbyn ymosodwyr. Felly, gyda hynny mewn cof – gadewch i ni dyrchu i hanes Caernarfon a dysgu am y brwydrau mawr a gynhaliwyd yma.

Roedd y Cymry ers blynyddoedd lawer wedi sefyll yn gadarn yn erbyn ymosodiadau’r Saeson Sacsonaidd gan geisio cadw eu mamwlad gydag egni rhyfeddol, fodd bynnag, ar ôl canrifoedd, dechreuodd y Brenin Edward ei ymgyrch o gipio tiroedd Cymru.

Caernarfon, fel y gwyddoch, oedd yr prif adeilad y brenin Edward o Loegr er mwyn atgyfnerthu ei bŵer ledled Cymru drwy sefydlu ‘Cylch Haearn’ cryf.

Dyma brifddinas weinyddol Gogledd Cymru – ac o ganlyniad, cafodd y castell a’r dref gaerog o’i amgylch eu hadeiladu ar raddfa fawr. Roedd hefyd arwyddocâd symbolaidd gan fod caer Rufeinig Segontium wedi’i lleoli gerllaw.

Cafodd y Castell a’r Dref eu hanrheithio gan Madog ap Llywelyn yn 1294 mewn gwrthryfel yn erbyn pwerau Lloegr, a chafodd hyn ei amseru pan oedd lluoedd Brenin Edward yn canolbwyntio ar yr ymgyrch yn Ffrainc, ond yn anffodus i’r Cymry, roedd y tywydd gwael wedi rhwystro Edward rhag hwylio. Cafodd yr ymosodiad ar y cyfandir ei ohirio’n gyflym a throdd Edward ei sylw at Gymru. Cafodd Caernarfon ei goresgyn gan luoedd Madog a chafodd y castell ei feddiannu. Dim ond blwyddyn wnaeth y gwrthryfel bara, ac ni chafwyd gwrthryfel hirach nes gwrthryfel Owain Glyndwr yn y 15fed ganrif.

Am dros ddwy ganrif ar ôl concwest y Saeson ar Gymru, mae’r trefniadau a sefydlwyd gan Edward I ar gyfer llywodraethu’r wlad yn eu lle – i raddau helaeth, dyma’r cylchoedd haearn o gestyll a adeiladwyd. Cafwyd gwarchae yn y dref a’r castell gan Owain Glyndwr adeg Gwrthryfel Glyndwr (1400-1415).

Daeth y frwydr i ben heb enillydd clir, gyda 300 o filwyr o Gymru yn farw – ond dangosodd fod gan fyddin Glyndwr y gallu i ymosod ar unrhyw annedd Seisnig. Fe ynysodd Caernarfon hefyd o’i rhwydwaith cymorth – Pwerau Lloegr. Roedd hwn yn gam anhygoel o ddefnyddiol i sefyllfa strategol Owain yn ystod y gwrthryfel hwn.

Er i wrthryfel Owain fethu yn y pen draw, mae Owain yn cael ei alw’n arwr Cymreig mawr yn ymladd i gadw diwylliant ei famwlad – a chaiff ei adnabod yn aml fel y William Wallace Cymreig. Diflannodd ar ôl y gwrthryfel ac ni chafodd ei ddal byth.

Heddiw, fodd bynnag, baner Cymru sy’n chwifio’n falch dros Gastell Caernarfon.