Cynhaliwyd y seremoni ddiweddar i gofnodi 50 mlynedd ers Arwisgiad y Tywysog Charles, dafliad carreg o Dafarn y Black Boy.
Mae Tywysog Cymru wedi ei ganmol am ei ymroddiad, ei gariad a a’i gefnogaeth i bobl Cymru. Yn etifedd i’r goron, arwisgwyd y Tywysog Charles yn Dywysog Cymru gan y Frenhines ar y 1af o Orffennaf 1969 a thorrodd gacen i ddathlu’r achlysur ac yfed paned o de o gwpan â draig goch Cymru arni.
Naw oed oedd Charles yn 1958 pan gyhoeddwyd mai ef fyddai Tywysog Cymru a chafodd ei arwisgo’n ffurfiol gan ei fam, mewn seremoni llawn rhwysg yng Nghastell Caernarfon. Gwyliwyd y darllediad gan 19 miliwn o bobl yn y DU a miliynau ledled y byd. Hanner can mlynedd ers y digwyddiad arwyddocaol hwn, cafodd yr ail bont dros afon Hafren ei hailenwi’n Bont Tywysog Cymru i anrhydeddu pen-blwydd Charles yn 70.
Mwynhaodd Charles, y Tywysog Cymru sydd wedi gwasanaethu hiraf, wythnos yng Nghymru, lle bu’n rhan o dros ddwsin o ddigwyddiadau ledled y wlad. Roedd un digwyddiad, yng Nghoedwig Ty’n-y-Coed, yn cynnwys cyfarfod â gweithwyr coedwigaeth â cheffylau yn ei rôl fel noddwr cymdeithas Coedwigo â Cheffylau Prydain. Mae’r sefydliad hwn yn hyrwyddo defnyddio ceffylau fel “peiriannau craidd” wrth gynaeafu coed. Hefyd, aeth ar ymweliad â chanolfan Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Nantgarw, lle bu’n cyfarfod gweithwyr llinell gymorth yr elusen a phobl ifanc sydd wedi elwa o’r cyngor a gafwyd.
Cafodd y gemydd Mari Thomas gymorth gan yr ymddiriedolaeth 21 o flynyddoedd yn ôl pan oedd yn sefydlu ei busnes – cyflwynodd ddolenni llawes a phin tei yn anrheg i Charles. Roedd y tywysog wrth ei fodd â’r anrhegion, a gofynnodd sut oedd busnes Ms Thomas yn mynd. Roedd yn hynod falch o glywed gan Ms Thomas ei bod yn cyflogi deg o bobl erbyn hyn.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth y Tywysog yn 1976 gan y Tywysog Charles, gan ddefnyddio ei dâl terfynol gan y llynges, er mwyn helpu pobl ifanc oresgyn amgylchiadau heriol, i ddechrau ym myd gwaith neu hyd yn oed gychwyn eu busnesau eu hunain. Hyd yma, mae’r ymddiriedolaeth wedi helpu bron i filiwn o bobl ifanc.