Castell, cyfoeth a chwa o liw
Dengys y dref hon entrepreneuriaeth ac egni cymunedol gyda dros 320 busnes yn cyfrannu 1% yn ychwanegol at eu trethi er mwyn llunio Hwb Caernarfon – cymuned a grëwyd i roi hwb i ffyniant y dref.
Mae waliau hynafol Caernarfon yn barod i’w hail-wampio! Fel rhan o gynllun arloesol i roi lliw a bywyd newydd i’r dref, bydd blaen siopau’r prif strydoedd yn cael eu peintio, a bydd dros 300 o fasgedi crog lliwgar yn cael eu hongian.
Mae’r dref hanesyddol hon yn atyniad enfawr i dwristiaeth o bob cwr o’r wlad a thu hwnt ac mae modd cyrraedd y dref yn hwylus ar fws neu gar. Caernarfon yw’r dref ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf yng Nghymru. Gwelir baneri’r Ddraig Goch yn cyhwfan yn ogystal â baneri Owain Glyndŵr a Dewi Sant.
Mewn ymgais i atal y gwylanod ymosodol, penodwyd Elsa y dylluan gorniog i yrru’r adar ymaith o’r dref am gyfnod o 6 wythnos.
Yn ogystal fe ymrwymodd y Cyngor i: gynyddu pa mor aml y torrir y gwair; dalu am 200 awr ychwanegol i lanhau’r strydoedd; asesu cyflwr, a’r angen am loches bws ychwanegol; asesu lleoliad biniau sbwriel a biniau baw cŵn gan ystyried yr angen am ragor ohonynt.
Caernarfon ar ei newid wedd
Dywedodd Rheolwr Hwb Caernarfon, Gavin Owen i Gyngor Gwynedd ofyn i fusnesau’r dref gefnogi syniad o ‘ardal gwella busnes’, er mwyn gweithio i wedd-newid y dref.
Bwriad y gymuned yw: sefydlu gwefan newydd ar gyfer ymweld â Chaernarfon; cynllunio feinyl i’w gosod yn ffenestri siopau gwag y dref er mwyn tynnu sylw at atyniadau’r ardal; edrych ar ail agor y ganolfan dwristiaeth, a darparu wifi am ddim yng nghanol y dref.
Mae’r cynllun marchnata 3 blynedd yn cynnwys trefnu yr ŵyl fwyd, carnifal, ffair nadolig, cyngerdd blwyddyn newydd ac ati.