Tafarn y Black Boy, gwesty yng Nghaernarfon, ar gyrion Eryri
Muriau tref Caernarfon, Gwynedd
Ystafelloedd
Bwyty a Bar
Cynigion Arbennig
Archwilio
Mwy
Gwasanaethau a Chyfleusterau
Ein Lleoliad
Talebau Rhodd
Cynllun Ffyddlondeb
Atyniadau Lleol
Tafarn y Black Boy
Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu gwasanaeth personol i bob gwestai. O’r foment byddwch yn cyrraedd bydd staff cyfeillgar y dafarn wrth law bob amser i gynnig cymorth a rhannu eu gwybodaeth leol.
Mae gwesty Tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon wedi bod yn croesawu gwesteion ac ymwelwyr blinedig â thref Caernarfon a rhanbarth Eryri ers dechrau’r 16eg ganrif. Dydy rhai pethau byth yn newid. Boed syched arnoch, eich bod am gael pryd o fwyd neu’n dymuno gwneud dim mwy nag ymlacio, Tafarn y Black Boy yw’r canolbwynt perffaith i archwilio Eryri, Gogledd Cymru ac Ynys Môn. Mae gennym ni 47 o ystafelloedd cysurus. Mae gan bob un ystafell ymolchi breifat a steil a dodrefn unigol. Mae Wi-Fi am ddim ar gael i’n holl westeion drwy’r gwesty i gyd.
Mae ein bwyty enwog wedi ennill Gwobr Efydd Croeso Cymru ac mae rhywbeth at ddant pawb ar y fwydlen. Mae ein Prif Gogydd yn cynllunio ac yn perffeithio pob pryd, gan fynd ar drywydd cynhwysion lleol gan gyflenwyr lleol. Boed yn ginio ysgafn neu’n bryd nos, mae Tafarn y Black Boy yn cynnig croeso cynnes a bwyd da i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad ac amgylchedd Cymreig hamddenol. Mae ein gwesty gwely a brecwast yng Nghaernarfon yn hwylus iawn ar gyfer archwilio Eryri. O’r foment byddwch yn cyrraedd bydd staff cyfeillgar y dafarn wrth law bob amser i gynnig cymorth a rhannu eu gwybodaeth leol.
Yn anffodus dydyn ni ddim yn derbyn cŵn yn yr adeilad, ac eithrio cŵn cymorth/tywys.