Datganiad Hygyrchedd
Yn Nhafarn y Black Boy, rydyn ni’n credu dylai ein gwesteion allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth o ran a yw ein hadeilad, â’i nenfydau isel nodweddiadol, coridorau cul a thrawstiau agored, yn bodloni eu hanghenion hygyrchedd penodol. Os nad yw’r datganiad hwn yn ateb eich ymholiad penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Rydyn ni’n croesawu ein holl westeion heb wahaniaethu ac yn ymdrechu gwneud pethau’n hygyrch i bawb. Mae’r dafarn yn sefyll yng nghanol y dref. Maes parcio (rhaid talu costau parcio o £5 y dydd). Tarmacadam a phafin ar lefel y wyneb i’r prif faes parcio. Mae ystafelloedd mynediad hawdd ar y llawr gwaelod ar gael yn Jac Ddu a Tŷ Dre.
Mae Caernarfon ar brif lwybr bysiau gogledd Cymru. Mae’r orsaf drenau prif lwybr agosaf ym Mangor, 9 milltir i ffwrdd. Mae’r dderbynfa wedi’i haddasu ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn. Does dim system dolen sain wedi’i gosod. Mae toiled sy’n addas ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn ar gael ar y llawr gwaelod.
Rydyn ni’n fwy na hapus darparu gwybodaeth ychwanegol yn ogystal â chynnig cymorth pan fyddwch yn ymweld â Thafarn y Black Boy.
Mae gris ger y drws ffrynt. Mae Tafarn y Black Boy yn adeiladu hanesyddol ac felly, oherwydd ei gynllun strwythurol, nid yw’n darparu mynediad hawdd i gadeiriau olwyn. Mae ei loriau’n anwastad a’i goridorau’n gul; does dim byd o led safonol.
Does dim lifft. Dydy’r ystafelloedd gwely yn y dafarn ddim yn hawdd eu cyrraedd mewn cadair olwyn. Maen nhw wedi’u rhannu dros ddau lawr gyda grisiau.