ATYNIADAU LLEOL
ADRENALIN
CESTYLL
GWEITHGAREDDAU DAN DO
ANTURIAETHAU AWYR AGORED
RHEILFFYRDD
TEITHIAU
Yn Nhafarn y Black Boy mae harddwch syfrdanol gogledd Cymru ar garreg ein drws, gyda rhywbeth at ddant pawb. Does dim rhaid teithio’n bell i fwynhau’r golygfeydd a’r atyniadau lu sydd gan Gaernarfon a’r cyffiniau i’w cynnig. Er enghraifft, munud yn llythrennol mae’n ei gymryd i gyrraedd castell mwyaf trawiadol Cymru; Safle Treftadaeth y Byd enfawr a gafodd ei adeiladu gan Edward I fel symbol o gryfder Seisnig. Naw can llath ymhellach mae man cychwyn Rheilffordd Eryri, sy’n cynnig taith ar un o drenau stêm lled 2 (2 gauge) mwyaf pwerus y byd. Ychydig o filltiroedd yn y car a byddwch yn cyrraedd Parc Cenedlaethol Eryri, cartref mynydd uchaf Cymru, a Sir Fôn, cartref Castell Biwmares, y castell olaf i’w adeiladu yng Nghymru.