Ein Hystafelloedd
Bachgen Du – Black Boy Inn
Jac Du – Black Jack’s
Twr Du – Black Tower
Ty Dre – Town House
Does dim lifftiau yn unrhyw ran o’r Black Boy gan ei fod yn adeilad rhestredig.
Dydyn ni ddim yn derbyn cŵn yn unrhyw ran o’r adeiladau (ac eithrio cŵn cymorth).
Does gan Dafarn y Black Boy ddim ei maes parcio ei hun. Mae modd aros yn y maes parcio bach ger y dafarn am £5 y noson, neu’n ddi-dâl i ddeiliaid bathodyn glas.
Mae gennym ni hyn a hyn o drwyddedau am ddim ar gyfer maes parcio Cei Llechi islaw’r Castell (galwch heibio’r dderbynfa cyn mynd yno i wneud yn siŵr bod un ar gael). Mae digon o feysydd parcio eraill yn agos i’r dafarn. Mae rhai yn codi tâl ac mae rhai am ddim; byddem yn argymell eich bod yn galw heibio’r dafarn wrth gyrraedd os nad ydych chi’n siŵr beth yw’r dewis gorau o ran parcio.
Mae angen cerdyn debyd/credyd i sicrhau pob archeb, gan gynnwys rhai nad ydynt wedi’u harchebu ymlaen llaw. Fel mesur diogelwch mae cardiau debyd/credyd yn cael eu dilysu pan fyddwn yn cael eich archeb, ond ni chodir tâl oni bai eich bod yn dewis y gyfradd talu ymlaen llaw. Bydd cysylltiadau talu’n cael eu hanfon 48 awr cyn cyrraedd ar gyfer pob archeb na thalwyd amdani ymlaen llaw.
I ganslo archebion sydd wedi’u gwneud yn uniongyrchol gyda ni (ar y ffôn neu ar ein gwefan), rhaid cael rhybudd o leiaf 48 awr cyn cyrraedd a byddwch yn cael cyfeirnod talu dros e-bost. Os oes angen i chi ganslo o fewn 48 awr bydd rhaid i chi dalu cost yr archeb yn llawn. Dydy pob un o’n cyfraddau ddim yn hyblyg felly ffoniwch os oes gennych chi gwestiwn ynglŷn â pha gyfradd i’w dewis. Os ydych chi wedi talu drwy asiant, hy Booking.com neu Expedia ac ati, does dim modd i ni ganslo’r archeb ac mae’n rhaid i chi gysylltu â’r asiant.
Mae croeso i chi gysylltu â Thafarn y Black Boy yn uniongyrchol os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu addasiadau o ran eich archeb.
Yr amser gorau i’n ffonio i archebu ystafell yw rhwng 10:00am a 5:00pm.
Dim ond Rheolwr Tîm sy’n gallu derbyn archebion gan grwpiau o 5 ystafell neu fwy. Bydd angen blaendal hefyd.
Mae brecwast wedi’i gynnwys (yn amodol ar y pecyn a archebwyd).
CWESTIYNAU CYFFREDIN
Oes lifftiau ar gael?
Does gennym ni ddim lifft yn unrhyw rhan o gyfadeilad y Black Boy o ganlyniad i oedran yr adeiladau.
Oes W-iFi ar gael?
Oes, gallwch chi gofrestru i gael Wi-Fi am ddim.
Ydych chi’n derbyn anifeiliaid anwes?
Dydyn ni ddim yn derbyn anifeiliaid anwes yn unrhyw ran o’r adeilad (ac eithrio cŵn cymorth).
Oes modd storio bagiau?
Mae gennym ni rywfaint o le i storio bagiau yn y dderbynfa. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gadael unrhyw beth ar ôl wrth adael.
Ydych chi’n cynnig adloniant yn yr ystafelloedd bwyta neu weithgareddau?
Mae gennym ni bolisi nad yw’n caniatáu unrhyw fath o adloniant yn yr ystafelloedd bwyta neu weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys disgo a bandiau byw. Rydyn ni’n gweithredu’r polisi hwn er mwyn i’n cymdogion a’n preswylwyr ein hunain gael noson dawel ar ôl i’r dafarn gau.
Beth yw safon eich adeiladau?
Cafodd Tafarn y Black Boy ei adnewyddu yn 2016. Cafodd datblygiad Jac Ddu, adeilad ar wahân yn iard y dafarn, ei gwblhau yn 2013. Cafodd Tŷ Dre ei gwblhau yn 2014 a chafodd ein heiddo diweddaraf, Twr Du, ei gwblhau yn 2019. Mae pob un o safon pedair seren.
Pwy sy’n eich graddio?
Rydyn ni’n cael ein graddio’n flynyddol gan Croeso Cymru a’r AA. Ers 2016 mae’r ddau sefydliad hyn wedi rhoi pedair seren i ni fel tafarn sy’n westy.
Allwch chi roi map o’r ardal leol i mi?
Mae map o Gaernarfon ar gael yma
Beth sydd ei angen arnaf i archebu ystafell?
Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch chi i archebu ystafell. Rydyn ni’n defnyddio Trust Payments/Secure Trading i gadw’r holl fanylion cerdyn i’ch diogelu chi. Rydyn ni’n cydymffurfio’n llawn â Diwydiant y Cardiau Talu. Os ydych chi’n dymuno bilio bwyd a diod i’ch ystafell a thalu wrth adael, bydd angen i chi awdurdodi cerdyn ymlaen llaw ar gyfer eich arhosiad neu dalu’r cyfanswm yn ogystal â £30.00 y person y noson. Dyma fydd y broses awdurdodi ymlaen llaw lawn, ar ôl cytuno ar y bil terfynol wrth adael byddwn yn cwblhau’r broses awdurdodi ymlaen llaw ar gyfer cyfanswm eich bil terfynol.
Ydych chi’n derbyn archebion gan grwpiau mawr?
Dim ond Rheolwr Tîm sy’n gallu derbyn archebion gan grwpiau o 5 ystafell neu fwy. Bydd angen blaendal hefyd.
Faint o’r gloch fydd fy ystafell yn barod?
Bydd eich ystafell yn barod o 3pm ymlaen.
Faint o’r gloch mae’n rhaid i mi adael?
Rhaid i chi adael erbyn 11am.
Dwi’n disgwyl cyrraedd yn hwyr yn y nos, ydy hyn yn iawn?
Os ydych chi’n bwriadu cyrraedd ar ôl hanner nos, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni beth yw’r amser cyrraedd disgwyliedig. O ganlyniad i natur yr adeilad, ni fydd y staff nos yn eich gweld wrth y prif ddrws bob amser.
Pa fath o wlâu sydd ar gael?
Mae gwlâu pâr neu ddwbl ar gael yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Rhowch wybod i ni’n uniongyrchol os hoffech chi rannu’r gwely yn ddau sengl. Peidiwch â chymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod eich dewis, oherwydd dydy rhai asiantiaid ddim yn rhoi gwybod i ni. Bydd y rhan fwyaf o westeion yn cael nifer o e-byst gennym ni cyn cyrraedd os yw’r asiant wedi rhoi eu cyfeiriad e-bost i ni.
Ydych chi’n gallu cyflenwi gwlâu Z ychwanegol?
Dim ond ambell ystafell sy’n gallu cael gwely Z felly cysylltwch â ni cyn archebu. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd modd cael un yn eich ystafell, oherwydd efallai na fydd hynny’n wir. Codir tâl am archebu ystafell â gwely Z.
Oes modd i mi archebu ystafell ar y llawr gwaelod?
Mae gennym 4 ystafell mynediad hawdd ar y llawr gwaelod yn Jac Ddu a Tŷ Dre. Mae ganddynt gawodydd cerdded i mewn. Os ydych chi’n cael trafferth dringo grisiau, archebwch un o’r rhain oherwydd mae’r dafarn yn gul iawn gyda thrawstiau isel, oherwydd ei oedran, a does dim ystafelloedd ar y llawr gwaelod yno, ac mae llawer o risiau yn yr adeiladau eraill a dim lifftiau.
Oes system wresogi / aerdymheru yn yr ystafelloedd?
Mae gwres canolog llawn ym mhob ystafell, ond nid system aerdymheru oherwydd oedran yr adeiladau.
Oes gennych chi leoedd parcio?
Mae parcio am ddim ar gael yng Nghaernarfon, ond mae’n gyfyngedig. Bydd y rhai sy’n cyrraedd gyntaf yn cael trwydded i gael lle am ddim ym maes parcio’r castell tua 1000 llathen o’r dafarn (os oes lleoedd ar gael). Y cyngor lleol sy’n berchen ar y maes parcio bach ger y dafarn. Mae’n costio £5 y dydd i ddefnyddio hwn (dim tâl i ddeiliaid bathodyn glas). Mae meysydd parcio cyhoeddus o gwmpas y dafarn ar gael am ddim rhwng 17.00pm a 9.30am y diwrnod canlynol.
Byddaf yn aros yn Tŷ Dre, oes lleoedd parcio ar gael?
Mae parcio am ddim ar gael yng Nghaernarfon, ond mae’n gyfyngedig. Bydd y rhai sy’n cyrraedd gyntaf yn cael trwydded i gael lle am ddim ym maes parcio’r castell tua 1000 llathen o’r dafarn (os oes lleoedd ar gael). Y cyngor lleol sy’n berchen ar y maes parcio bach ger y dafarn. Mae’n costio £5 y dydd i ddefnyddio hwn (dim tâl i ddeiliaid bathodyn glas). Mae meysydd parcio cyhoeddus o gwmpas y dafarn ar gael am ddim rhwng 17.00pm a 9.30am y diwrnod canlynol.
Oes modd i mi archebu lle parcio?
Does dim modd i ni gadw lleoedd parcio i westeion gan nad ydym yn berchen ar ein maes parcio ein hun.
Faint o’r gloch mae brecwast?
Mae amser brecwast yn gallu bod yn eithriadol o brysur os yw’r holl westeion yn cyrraedd ar yr un pryd. 9.00am yw’r amser prysuraf, yn enwedig ar y penwythnos. Dewch yn gynt na hyn os oes angen i chi adael yn gynnar. 7.00am tan 9.30am yw’r amser gweini brecwast yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn, a 7.30am tan 10.00am yw’r amser ar ddydd Sul.
Ydy brecwast wedi’i gynnwys?
Ydy, mae brecwast wedi’i gynnwys. Archebwch ar ein gwefan ni (yn amodol ar y pecyn a archebir).
Gyda phwy alla i gysylltu ynghylch unrhyw broblemau talu?
Cysylltwch â thîm y dderbynfa rhwng 9am a 9pm ar reception@black-boy-inn.com neu 01286 673604